Papur 1

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

Dyddiad:        23 Mai 2013

 

Amser:            9.15 - 11.15

 

Teitl:    Papur Tystiolaeth – Portffolio Cymunedau a Threchu Tlodi    

 

 

TROSOLWG

 

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn amlinellu pob un o’m mhrif flaenoriaethau ar gyfer tymor presennol y Cynulliad. Rwy’n falch ein bod eisoes wedi cyflawni llawer o’r blaenoriaethau a nodwyd yn llwyddiannus. Byddwn yn parhau i weithio’n galed er mwyn sicrhau cynnydd ym mhob un o’r ymrwymiadau a wnaed yn ein Rhaglen Lywodraethu.

Mae hwn yn bortffolio cyffrous a phwysig. Un o fy mhrif nodau yw cynyddu’r cysylltiadau rhwng gwahanol bolisïau a rhaglenni yn fy mhortffolio a manteisio arnynt. Mae’n bwysig hefyd ein bod yn blaenoriaethu’n arian cyfyngedig ar gyfer buddsoddi a fydd yn atal a diogelu, wrth i ni geisio sicrhau cymunedau gwydn, lle gall teuluoedd ac unigolion gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.  Thema craidd ar draws y portffolio yw cymunedau cryf.  Ddylem helpu cymunedau i fod yn gryfach – hynny yw cymunedau gwybodus a rhwydweithiol; lle mae teuluoedd ac unigolion yn gallu cael mynediad i’r cymorth sydd angen arnynt; a lle mae awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus arall, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Undebau Credyd, gwasanaethau cynghori, y trydydd sector a sefydliadau cymunedol, undebau llafur a chyflogwyr yn cydweithio tuag at yr un nod.

 

Mae’r papur hwn yn crynhoi'r cynnydd a wnaed yn rhai o feysydd allweddol y portffolio Cymunedau a Threchu Tlodi. Ar y cyfan, mae dangosyddion canlyniadau'r Rhaglen Lywodraethu yn dangos i ni bod lefelau tlodi (yn enwedig ymysg plant) yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel ac wrth edrych ymlaen mae yna heriau sylweddol yn ein hwynebu o ran lleihau’r dangosydd hwn ymhellach. Yn benodol, cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer lles yw’r newid mwyaf mewn 60 mlynedd yn y system les. Byddant yn taro aelodau tlotaf ein cymdeithas galetaf ar adeg pan nad yw economi’r DU yn tyfu fawr ddim. Bydd gan y wasgfa ddwbl hon oblygiadau economaidd a chymdeithasol aruthrol.

 

Bydd Llywodraeth y Du yn gwneud popeth yn ei gallu er mwyn helpu pobl drwy’r newidiadau hyn ac adfer y sefyllfa yn sgil penderfyniadau Llywodraeth y DU. Mae fy swyddogion yn gweithio ar draws Llywodraeth Cymru er mwyn adolygu, cryfhau a diweddaru ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi a’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Rydym yn buddsoddi’n sylweddol mewn rhaglenni sy’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi a cheisio gwella bywydau'r rhai sy’n byw mewn aelwydydd incwm isel. Mae’r rhaglenni hyn yn cynnwys y Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf a ail-lansiwyd, a oedd yn canolbwyntio ar drechu tlodi, ehangu Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd, ymyriadau cynnar drwy Teuluoedd yn Gyntaf, a’n hymrwymiad allweddol i gynyddu buddsoddiad yn y cynllun Dechrau’n Deg. 

 

Bydd ein camau a’n hymrwymiadau i ddatblygu cyfle cyfartal, mynd i’r afael â gwahaniaethu, a hybu cymdeithasau cynhwysol a chydlynol yn parhau i fod yn flaenoriaeth, yn ogystal â threchu anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol.  Yn unol gyda’n ymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy, sicrhau Cymru decach bydd ein nod nawr ac ar gyfer cenedlaethau i ddod.

 

Er y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu, mae ein cyllidebau ein hunain dan fwy o bwysau nag erioed gyda thoriadau pellach wedi’u cyhoeddi gan y Canghellor ym mis Mawrth diwethaf fel rhan o Gyllideb Llywodraeth y DU. Mae’n bwysig bod pobl yn deall bod gan y newidiadau lles y potensial i effeithio ar wasanaethau cyhoeddus ar draws meysydd fel iechyd, gofal cymdeithasol, tai, addysg, llywodraeth leol a mwy.

 

 

CYNLLUN GWEITHREDU AR GYFER TRECHU TLODI (27461)

 

Mae’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2012, yn dwyn ynghyd amrywiaeth o bolisïau ac ymyriadau ar draws holl adrannau Llywodraeth Cymru. Bwriadaf gyhoeddi cynllun gweithredu diwygiedig yn ystod haf 2013, a byddaf yn cofnodi cynnydd a’r hyn a wnawn yn y dyfodol.  

 

Bydd gan y cynllun diwygiedig hwn fwy o bwyslais ar amcanion ynghyd â naratif clir er mwyn amlinellu’r gwaith sy’n cael ei wneud ar draws y llywodraeth i gyflawni’r amcanion a chyfres gryfach o gerrig milltir a thargedau er mwyn olrhain cynnydd yn erbyn amcanion. Mae’n bwysig ein bod yn nodi’r amcanion amlwg yn glir mewn perthynas â Threchu Tlodi, er enghraifft cau’r bwlch o ran cyrhaeddiad addysgol, lleihau nifer yr aelwydydd sydd heb waith a lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt yn ennill cyflog nac yn dysgu.

 

Penodwyd Eiriolwyr Trechu Tlodi ym mhob un o Adrannau Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau dull cyfannol o drechu tlodi. Mae Eiriolwyr Gwrthdlodi hefyd yn cael eu dewis ym mhob awdurdod lleol ar lefel aelodau ac ar lefel uwch-swyddogion.

 

Penodwyd Grŵp Cynghori allanol i gydweithio â ni a’n cynghori ar gamau i drechu tlodi, sy’n gysylltiedig â’r rhai a nodir yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi.

 

Cafwyd gwaith ymgysylltu allanol sylweddol wrth ddiweddaru’r cynllun, gan gynnwys gyda’r Comisiynwyr, cynrychiolwyr y Trydydd Sector, y Grŵp Cynghori Allanol, ac yn bwysicach, gyda phobl sydd â phrofiad uniongyrchol o dlodi. 

 

 

CYMUNEDAU YN GYNTAF

 

Mae rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi’i hail-lansio fel rhaglen gymunedol sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â thlodi gyda phwyslais penodol ar y tri chanlyniad strategol sef cymunedau iachach, cymunedau dysgu a chymunedau ffyniannus.  Mae’r rhaglen yn allweddol er mwyn trechu tlodi drwy weithio gydag unigolion a chymunedau yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru drwy Glystyrau Cymunedau yn Gyntaf. Mae’r Clystyrau hyn yn berthnasol i tua 24% o boblogaeth Cymru.

 

Cyhoeddwyd 52 o Glystyrau erbyn mis Ionawr 2013, gan gynrychioli’r holl gymunedau a ystyriwyd yn gymwys i’w cynnwys yn rhaglen newydd Cymunedau yn Gyntaf, ar sail eu safle ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Gyda’i gilydd, byddant yn derbyn tua £75 miliwn hyd at fis Mawrth 2015. Bydd yr arian yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau sy’n seiliedig yn y gymuned a gweithgareddau a arweinir gan y Tîm Cyflawni ar gyfer pob Clwstwr. Byddant yn rhoi cymorth i’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gan weithio i drechu tlodi, helpu pobl i gael gwaith a lleddfu effeithiau tlodi.

Fel enghraifft o sut mae rhaglenni prif ffrwd ar draws Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o bwyslais ar drechu tlodi, rydym yn cyfuno ein rhaglenni a’n polisïau er mwyn cefnogi Clystyrau Cymunedau yn Gyntaf newydd. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

 

-       Ehangu gwaith llwyddiannus Canolfan Byd Gwaith gan symud Cynghorwyr Canolfan Byd Gwaith i gymunedau fel rhan integredig o dîm Cymunedau yn Gyntaf.

-       Sefydlu 10 cynllun peilot er mwyn cynorthwyo pobl ifanc o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf i fanteisio’n llawn ar gyfleoedd Twf Swyddi Cymru

-       - Prosiect gyda Chwaraeon Cymru sydd wedi’i ariannu ar y cyd er mwyn annog “chwaraeon stepen drws” ym mhob Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru.

-       Swyddi rhanbarthol a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop er mwyn cefnogi’r gwaith o integreiddio â Theuluoedd yn Gyntaf, Dechrau’n Deg a Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd.

-       Sefydlu Cronfa Arian Cyfatebol Grant Amddifadedd Disgyblion Cymunedau yn Gyntaf, er mwyn darparu £2m filiwn i gynorthwyo Clystyrau Cymunedau yn Gyntaf ac ysgolion i gydweithio

 

 

Bydd amrywiaeth o gyfleoedd pellach ar gyfer Clystyrau Cymunedau yn Gyntaf yn cael eu datblygu dros y flwyddyn nesaf.  

 

 

LLINIARU EFFEITHIAU POLISI DIWYGIO LLES LLYWODRAETH Y DU

 

Comisiynodd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol Llywodraeth Cymru ar Ddiwygio Lles raglen ymchwil tri cham er mwyn asesu effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU yng Nghymru. Lansiodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau ganfyddiadau ymchwil Cam 2 ar 18 Chwefror 2013. Mae amrywiaeth o gamau ar y gweill, neu’n cael eu hystyried, a fydd yn cyfrannu at liniaru effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU yng Nghymru. Bydd canfyddiadau’r ymchwil yn helpu i nodi’r ffordd orau o amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, a lleddfu unrhyw effaith negyddol lle bo modd.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu cyfres o gamau lliniaru cydgysylltiedig, gan gynnwys, er enghraifft, y rhai a nodir isod sy’n gysylltiedig â’r nod o gefnogi cymunedau gwydn sy’n wybodus, yn drefnus ac yn gallu helpu’r rhai sydd fwyaf mewn angen mewn modd amserol.

 

 

 

 

Cronfa Cymorth Dewisol

 

Cafodd elfennau o’r Gronfa Gymdeithasol gyfredol a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU, y Benthyciadau Argyfwng a’r Grantiau Gofal Cymunedol Dewisol yn benodol, eu terfynu ddiwedd mis Mawrth 2013. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ei chynllun ei hun o 2 Ebrill 2013 ymlaen. Enw’r cynllun newydd yw’r Gronfa Cymorth Dewisol. 

 

Diben y Gronfa Cymorth Dewisol yw cynnig taliadau neu gymorth ‘mewn nwyddau’ er mwyn galluogi pobl i fyw’n annibynnol neu i gynnal bywyd annibynnol a darparu cymorth brys i bobl lle nodwyd angen i ddiogelu iechyd a lles. Bydd y taliadau hyn ar gael i bobl nad oes ganddynt unrhyw ddull arall o dalu costau byw uniongyrchol ac nid bwriad y taliadau yw talu treuliau parhaus. Felly, nid yw’r taliadau o’r gronfa hon yn gorfod cael eu had-dalu. Bydd y gronfa hon yn para am ddwy flynedd yn y lle cyntaf, a’r gyllideb flynyddol a neilltuir ar gyfer y gronfa newydd yw £10.2 miliwn y flwyddyn. Yn ystod mis Ebrill, dosbarthwyd 1,434 o ddyfarniadau gyda £15,871 yn cael ei ddarparu fel Taliadau Cymorth mewn Argyfwng a darparwyd £243,704 fel Taliadau Cymorth i Unigolion.

 

Gwasanaethau Cynghori

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £2.2 miliwn y flwyddyn am dair blynedd o 2012/2013 ymlaen i Gyngor ar Bopeth Cymru er mwyn ceisio cryfhau cynlluniau presennol Llywodraeth Cymru sy’n annog pobl i hawlio budd-daliadau - Cyngor Da: Iechyd Da, Cynllun hawlio Budd-daliadau ar gyfer Plant ag Anableddau a hawlio Budd-dâl y Dreth Gyngor a’r Budd-dâl Tai. Mae’r enillion mewn budd-daliadau a welwyd yn sgil y fenter hon ar gyfer cryfhau (“Cyngor Da, Iechyd Da”), uwchlaw targedau cychwynnol y prosiect, a chofnodwyd dros £16.8 miliwn o enillion mewn budd-daliadau ym mlwyddyn gyntaf y prosiect (2012/13). 

 

Mae Llywodraeth Cymru yn sicr y bydd gwasanaethau cynghori yn parhau i fod yn bwysig yn y gwaith o leddfu effeithiau’r dirywiad economaidd a diwygiadau lles Llywodraeth y DU. Rydym yn gweithio felly tuag at sefydlu Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau cynghori wedi’u cydgysylltu’n strategol, cynyddu dysgu a rennir, a manteisio i’r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael.  

 

Cynhaliwyd adolygiad o’r gwasanaethau cynghori yn sgil newidiadau’r Diwygiad Lles a diwygiadau i gymorth cyfreithiol. Mae adroddiad a baratowyd ar gyfer yr adolygiad yn argymell gwell cydgysylltu a chydweithio rhwng gwasanaethau. Mae’r adolygiad wedi ystyried, yn benodol, cyngor ar Les Cymdeithasol gan mai’r cyngor ar fudd-daliadau lles, dyled, tai a chyflogaeth yw’r meysydd sydd â’r galw mwyaf am wasanaethau cynghori am ddim. Mae Cyngor ar Bopeth wedi cofnodi cynnydd sydyn mewn galw am gyngor ar fudd-daliadau lles, gan dynnu sylw at gynnydd o 24% o 2010 i 2012 yn nifer y bobl sy’n gofyn am gyngor ar fudd-daliadau a chredydau treth. Cefnogwyd yr adolygiad gan grŵp mewnol, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o adrannau perthnasol ar draws Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Tai. Cyflwynodd grŵp allanol sylwadau ar y gwaith hefyd, ac roedd y grŵp hwn yn cynnwys cynrychiolaeth o’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol, y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, Cyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru. Cyhoeddwyd adroddiad ymchwil ar yr Adolygiad o Wasanaethau Cynghori ar wefan Llywodraeth Cymru ar 15 Mai. Byddaf yn gofyn am gynigion gan ddarparwyr cyngor a sefydliadau eraill ar y ffordd orau o roi canfyddiadau’r adolygiad ar waith er mwyn sicrhau gall pobl gael gafael ar y cymorth sydd ei arnynt ei angen.

 

Yn ogystal, mae gwaith sylweddol eisoes wedi cychwyn er mwyn datblygu cynigion i Cymunedau yn Gyntaf gydweithio â Chyngor ar Bopeth Cymru er mwyn gwella cyngor ar ddyled a lles mewn Clystyrau Cymunedau yn Gyntaf. Bydd y gwaith hwn yn cael ei ymgorffori i ffordd y Llywodraeth o feddwl yn y dyfodol.

Ar ran y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yng Nghymru, mae Cyngor ar Bopeth Cymru hefyd wedi rhoi cyngor wyneb yn wyneb ar ddyled i dros 4700 o gleientiaid yn y pum mis hyd at fis Awst 2012 a 4431 yn rhagor o sesiynau cyngor ariannol hyd at fis Ionawr 2013.

 

Cymunedau 2.0

 

Cymunedau 2.0 yw rhaglen cynhwysiant digidol gwerth £21 miliwn Llywodraeth Cymru ac mae ar waith rhwng mis Ebrill 2009 a mis Mawrth 2015. Mae’n blaenoriaethu cymorth i’r grwpiau sydd wedi’u hallgáu fwyaf yn ddigidol mewn cymdeithas drwy eu helpu i oresgyn rhwystrau, meithrin eu hyder, a chreu cyfleoedd iddynt ddefnyddio sgiliau newydd. Mae’n helpu i gefnogi mentrau cymdeithasol hefyd, ac, yn fwy diweddar mentrau meicro newydd, er mwyn gwella eu gweithrediadau a’u cystadleurwydd drwy TGCh. Mae Cymunedau 2.0 yn meithrin cynghreiriau strategol gyda sefydliadau allweddol sy’n cynrychioli’r bobl sydd wedi’u hallgáu fwyaf yn ddigidol a chydweithio â nhw. Mae’r rhain yn cynnwys Age Cymru, Anabledd Cymru, RNIB Cymru, Shelter Cymru, Gofal a Thrwsio, awdurdodau lleol, llyfrgelloedd, Galw Iechyd Cymru, cymdeithasau tai a chlystyrau Cymunedau yn Gyntaf. 

 

Mae Cymunedau 2.0 eisoes wedi helpu dros 23,000 o bobl i fynd ar-lein. Mae Cymunedau 2.0 yn helpu i leddfu effaith elfennau digidol y diwygiad lles (yn sgil y cam tuag at hawlio credyd cynhwysol ar-lein o fis Hydref 2013), gan wella bywydau pobl hefyd drwy sicrhau bod y cyfleodd y gall y dechnoleg ddiweddaraf ei chynnig ar gael. Mae’r mentrau a ariennir gan Cymunedau 2.0 yn helpu i hyfforddi cannoedd o staff awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i gyflwyno cynhwysiant digidol rheng flaen i bobl sy’n hawlio budd-daliadau. Mae Cymunedau 2.0 hefyd yn cyflwyno sesiynau “Web for work” er mwyn mynd i’r afael â heriau cyflogadwyedd. Drwy atgyfeiriadau gan Ganolfannau Byd Gwaith, mae’n helpu ceiswyr gwaith i wella eu sgiliau TGCh er mwyn eu helpu i chwilio am swyddi ar-lein ac ymgeisio amdanynt.

 

 

UNDEBAU CREDYD

 

O fis Hydref 2010 i fis Medi 2013, mae Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ar y cyd wedi darparu cyllid o £4,056 miliwn i barhau’r Prosiect Mynediad i Wasanaethau Ariannol drwy Undebau Credyd. Mae ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r ffordd orau i Lywodraeth Cymru barhau i gefnogi Undebau Credyd wedi i’r prosiect cyfredol ddod i ben, ac mae hyn yn seiliedig ar ail adroddiad y gwerthusiad annibynnol tri rhan o’r prosiect sy’n cael ei gynnal gan Old Bell 3.

 

Erbyn mis Rhagfyr 2012, roedd dau Undeb Credyd ar bymtheg wedi helpu dros 12,629 o oedolion sy’n bodloni’r diffiniad o fod wedi’u heithrio’n ariannol, i gael mynediad i gynhyrchion ariannol sy’n syml, yn dryloyw ac yn fforddiadwy. Mae Undebau Credyd hefyd wedi recriwtio dros 4100 o gynilwyr iau newydd ledled Cymru er gwaethaf y ffaith i Gynllun y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant gael ei ddiddymu.Mae asedau Undebau Credyd Cymru hefyd wedi parhau i dyfu. Yn 2000, amcangyfrifwyd bod yr asedau’n werth £4 miliwn, ac roeddent wedi cynyddu i oddeutu £30.6 miliwn erbyn mis Medi 2012. Amcangyfrifir bod gwerth y benthyciadau a ddarparwyd gan Undebau Credyd Cymru yn fwy na £14.7 miliwn, tra bod cynilion wedi cyrraedd dros £24.6 miliwn.

 

Mae ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r ffordd orau i Lywodraeth Cymru barhau i gefnogi Undebau Credyd yng Nghymru wedi i’r prosiect cyfredol ddod i ben ym mis Medi 2013.

 

 

TEULUOEDD YN GYNTAF

 

Mae’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn mynd ati i gefnogi teuluoedd yng Nghymru mewn ffordd integredig, sy’n canolbwyntio ar y teulu cyfan. Ei nod yw datblygu cymorth effeithiol, amlasiantaethol i deuluoedd er mwyn gwella eu canlyniadau, yn enwedig y rhai sy’n byw mewn tlodi neu mewn perygl o dlodi. Disgwylir i Awdurdodau Lleol ddatblygu prosesau asesu ac ymgysylltu sy’n canolbwyntio’n gynyddol ar deuluoedd drwy’r “Fframwaith Asesu’r Teulu ar y Cyd” (JAFF), a gwella cymorth cydgysylltiedig drwy fodelau “Tîm o Amgylch y Teulu”.

Mae Timau o Amgylch y Teulu yn weithredol bellach ym mhob un o’r 22 Awdurdod Lleol ac mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud, gyda phob ardal awdurdod lleol yn recriwtio, neu wedi recriwtio, i’w Timau o Amgylch y Teulu. Mae gan bob ardal Awdurdod Lleol gydgysylltydd Tîm o Amgylch y Teulu penodedig.

Mae’r gwaith o ddatblygu’r rhaglen a’i rhoi ar waith yn mynd rhagddo ers iddi gael ei chyflwyno drwy Gymru gyfan yn 2012.

 

Cynhaliwyd y Setiau Dysgu cenedlaethol cyntaf ym mis Ionawr 2013 gan ganolbwyntio ar ddatblygiad y gweithlu a dulliau’r “Tîm o Amgylch y Teulu”.Cyflwynodd y Prif Weinidog y brif araith yn y digwyddiad hwn.  

 

Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud ar y cynllun Tîm o Amgylch y Teulu: mae pob ardal Awdurdod Lleol wedi datblygu modelau Tîm o Amgylch y Teulu cychwynnol ac yn eu gweithredu ac mae ganddynt lwyth achosion gweithredol. Erbyn mis Tachwedd 2012, roedd dros 1600 o atgyfeiriadau JAFF wedi’u gwneud i dimau lleol Teuluoedd yn Gyntaf ac roedd dros 1300 o gynlluniau gweithredu Tîm o Amgylch y Teulu wedi’u rhoi ar waith ar gyfer teuluoedd.  

 

Mae rhaglen werthuso tair blynedd (2012-2015) wedi’i chomisiynu i ystyried effaith y rhaglen dros ei blynyddoedd cyntaf. Mae’r adroddiadau a luniwyd hyd yn hyn yn dangos bod yna gefnogaeth gref i’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf ymysg Awdurdodau Lleol, yn enwedig y dull amlasiantaethol o gefnogi teuluoedd.

DECHRAU’N DEG

 

Dechrau’n Deg yw rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Mae’n cynnig llwybr tuag at wella cyfleoedd bywyd plant yn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae’r rhaglen amlddisgyblaethol yn darparu cyfres “gyffredinol” o hawliau y gall pob plentyn dan bedair oed, a’u teuluoedd, o fewn ardaloedd a dargedwyd yn ddaearyddol, gael gafael atynt.

 

Mae’r rhaglen eisoes yn cynorthwyo 18,000 o blant a’u teuluoedd, ac erbyn diwedd tymor presennol y Cynulliad, bydd 36,000 o blant a’u teuluoedd wedi cael budd. Mae cynlluniau strategol tair blynedd wedi’i datblygu gan awdurdodau lleol er mwyn sicrhau y gellir cyflwyno’r rhaglen estynedig.

 

Mae perfformiad Awdurdodau Lleol yn cael ei lywio gan broses o Reolwyr Cyfrif a chaiff ei asesu gan fframwaith perfformiad a monitro trylwyr. Mae cynllun recriwtio a hyfforddi strategol wedi’i ddatblygu ar y cyd â’n prif bartneriaid yn lleol ac yn genedlaethol er mwyn cyflawni ein gofynion ar gyfer y gweithlu:

 

-       Mae hyfforddiant sylweddol eisoes wedi cychwyn ac mae’r rhaglen Dechrau’n Deg wedi cychwyn ar y broses o ariannu carfan gychwynnol o 71 o Ymwelwyr Iechyd dan hyfforddiant.

-       Mae awdurdodau lleol wedi datblygu cynlluniau strategol ar gyfer darparu eu gweithlu gofal plant a chymorth i deuluoedd.   

 

Mae cyllid cyfalaf wedi’i sicrhau ac mae Gweinidogion wedi cymeradwyo prosiectau cyfalaf sy’n cynnwys lleoliadau gofal plant o safon uchel. Mae 145 o brosiectau wedi’u cymeradwyo erbyn hyn sy’n werth cyfanswm o £20.918 miliwn.

 

Mae swyddogion yn parhau i fodelu’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen estynedig yn raddol er mwyn sicrhau ei bod yn cyd-fynd â’r adnoddau cyfalaf a’r gweithlu sy’n ehangu pan fyddant ar gael.  

 

 

CYMORTH I WEITHWYR CYFLOGEDIG REMPLOY A DDADLEOLWYD

 

Lansiodd Llywodraeth Cymru y Grant Cymorth i Gyflogwyr er mwyn helpu staff a ddadleolwyd gan Remploy ddod o hyd i swyddi newydd. Mae’n cynnig cymorth ariannol i gyflogwyr sy’n ystyried cynnig cyflogaeth briodol a chynaliadwy i weithwyr yng Nghymru a ddadleolwyd gan Remploy. Mae’r cyllid ar gael i sefydliadau a all gynnig cyflogaeth briodol i gyn-weithwyr cyflogedig anabl Remploy am o leiaf bedair blynedd. Mae’r cymorth ar gael hefyd i gyn-weithwyr cyflogedig anabl Remploy sydd bellach yn hunangyflogedig neu’n bwriadu sefydlu eu busnes eu hunain.   

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio ar y cyd â Chwmnïau Cymdeithasol Cymru, Canolfan Cydweithredol Cymru, Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Cymru, Canolfan Byd Gwaith, a rheolwyr lleol Remploy i nodi cyflogwyr a chyfleoedd busnes er mwyn creu swyddi newydd ar gyfer gweithwyr anabl Remploy sydd wedi cael eu diswyddo. Mae Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid wedi defnyddio cyfuniad o fecanweithiau cymorth er mwyn nodi cyfleoedd ailgyflogi. Mae Canolfan Byd Gwaith Cymru wedi cefnogi’r broses Grant Cymorth i Gyflogwyr drwy ei weithwyr achosion personol, sydd wedi bod yn allweddol wrth baru cyn-weithwyr cymwys Remploy â chyfleoedd gwaith a gefnogir gan y Grant Cymorth i Gyflogwyr.

 

Mae’r cynllun wedi bod yn llwyddiannus i lawer o gyflogwyr a chyn-weithwyr Remploy. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y cynllun wedi helpu 78 o gyn-weithwyr Remploy i ddod o hyd i swyddi newydd, a daethpwyd o hyd i i gyfleoedd gwaith i fwy.

 

Ar 6 Mai 2013, cyhoeddais y bydd y gweithwyr hynny a effeithiwyd gan “Gam 2” yn cael yr un gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru hefyd. Bydd y cynllun yn cael ei ehangu fel y gellir ymgeisio tan fis Mawrth 2014. Bydd y pecyn cymorth yn cael ei ariannu gyda hyd at £2.4 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru.

 

 

HAWLIAU’R PLENTYN

 

Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i hawliau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae’r Mesur wedi’i roi ar waith mewn dau gam. O 1 Mai 2012 cychwynnodd y ddyletswydd oedd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion roi sylw dyledus i erthyglau'r Confensiwn wrth wneud penderfyniadau am bolisïau a deddfwriaeth newydd neu wrth ddiwygio neu adolygu polisïau presennol. O 1 Mai 2014 bydd y ddyletswydd yn ehangu gan ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion roi sylw dyledus pryd bynnag y byddant yn arfer unrhyw un o’u swyddogaethau. Roedd Adran 4 y Mesur yn ei gwneud yn ofynnol, erbyn 31 Ionawr 2013, i Lywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiad ar y broses o gydymffurfio â’r ddyletswydd o roi sylw dyledus i’r Confensiwn a’i brotocolau dewisol. Mae’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth am gynnydd Llywodraeth Cymru wrth roi’r Mesur ar waith. 

 

Mae ein cynllun “Gwneud Pethau’n Iawn” yn ymateb i argymhellion a wnaed gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn dilyn adroddiad y DU ar hawliau plant yn 2008 ac mae’n cynnwys yr 16 maes blaenoriaeth a gytunwyd ar gyfer Cymru.   

 

Ym mis Ionawr 2014, bydd yn ofynnol i Lywodraeth y DU (fel Plaid y Wladwriaeth) gyflwyno eu hadroddiad yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Bydd angen i’r adroddiad hwn adlewyrchu’r sefyllfa ledled y DU. Rydym yn parhau i gymryd rhan mewn trafodaethau manwl gyda swyddogion y DU ar y ffordd y bydd y broses yn gweithio, ond yn bwysicach fyth, y ffordd y bydd ein hagwedd gadarnhaol tuag at hawliau plant yng Nghymru yn cael ei adlewyrchu’n ddigonol i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig. Ar hyn o bryd, rydym yn diweddaru’r “Cynllun Gweithredu ar gyfer Gwneud Pethau’n Iawn” a fydd yn sail i’n cyfraniad i gyflwyniad y DU.

 

 

CYFLEOEDD CHWARAE

 

Mae gwella cyfleoedd chwarae i bob plentyn a pherson ifanc yn rhan o ymrwymiad ein maniffesto yn y Rhaglen Lywodraethu. Er mwyn cyflawni’r ymrwymiad hwn, ym mis Tachwedd 2012 cychwynnwyd ar ran gyntaf adran 11, Cyfleoedd Chwarae, ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Mae hyn, ynghyd â Rheoliadau Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (Cymru) 2012, yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu pa mor ddigonol yw cyfleoedd chwarae ar gyfer plant yn eu hardaloedd. Cyflwynwyd yr asesiadau hyn, a oedd yn cynnwys cynlluniau gweithredu er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion a gwella cyfleoedd chwarae, i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2013.  

 

 

GOFAL PLANT

 

Mae ein hamcanion polisi ar gyfer gofal plant yn cyfrannu at y gwaith o gyflawni agendâu Trechu Tlodi, Blynyddoedd Cynnar a Chydraddoldeb ein Rhaglen Lywodraethu. Rydym wedi nodi bod mynediad i ofal plant fforddiadwy o safon uchel yn un o brif flaenoriaethau ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi. Mae’r flaenoriaeth hon yn ganolog i gynorthwyo rhieni i ddychwelyd i weithio yn ogystal â sicrhau canlyniadau cadarnhaol i blant o ran datblygiad. Rydym yn parhau i fuddsoddi yn y blynyddoedd cynnar ac mae gennym nifer o raglenni sy’n darparu cefnogaeth amrywiol i rieni. Rydym yn parhau hefyd i gydweithio â’n partneriaid a’n rhanddeiliaid er mwyn datblygu’r camau gweithredu yn ein Datganiad Polisi Gofal Plant “Magu Plant, Cefnogi Teuluoedd”. Mae nifer o’r camau gweithredu hyn yn cael eu datblygu ar draws portffolios drwy Gynllun Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant sy’n cael ei ystyried gan Weinidogion ar hyn o bryd. 

 

Rydym yn gweithio hefyd gydag Adrannau eraill Llywodraeth y DU mewn perthynas â’r Diwygiad Lles er mwyn sicrhau y bydd pobl Cymru yn gallu parhau i gael mynediad i gredydau treth addas os ydynt yn gymwys.   

 

 

CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL

 

Lansiodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Cydraddoldeb Strategol a’i hamcanion cydraddoldeb ar 2 Ebrill 2012. Derbyniwyd y wybodaeth ddiweddaraf am y broses yn rheolaidd a llwyddwyd i ymgysylltu ar bob lefel ar draws Llywodraeth Cymru.  

 

Mae Bwrdd Cydraddoldeb Strategol wedi’i sefydli, gyda chynrychiolaeth fewnol ac allanol, a bydd cylch gwaith y Bwrdd yn cynnwys darparu cymorth, heriau, cyngor ac adborth adeiladol ar gynnydd y gwaith o gyflawni’r amcanion cydraddoldeb. Cynhaliwyd ei gyfarfod cyntaf ym mis Mawrth 2013.   

 

Mae Adroddiad Blynyddol cyntaf y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2011/12 wedi’i gyhoeddi ac mae’n nodi ein dyletswyddau adrodd dan Ddeddf Llywodraeth Cymru a Dyletswyddau Cydraddoldeb sy’n benodol i Gymru. Cyhoeddir yr adroddiad blynyddol nesaf yn ystod yr hydref.

 

Er bod Llywodraeth y DU yn edrych yn barod ar y Dyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus o dan Deddf Cydraddoldeb 2010, ac wedi cynnig diddymu’r ddyletswydd sector cyhoeddus yn Lloegr i roi sylw i anghydraddoldebau sy’n codi o anfantais economaidd-gymdeithasol, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n gadarn i’ barhau gyda’r gofynion.

 

FFRAMWAITH GWEITHREDU AR FYW'N ANNIBYNNOL AR GYFER POBL ANABL

 

Mae Fframwaith Gweithredu ar Fyw’n Annibynnol yn nodi’r camau gweithredu yr ydym yn bwriadu eu cymryd er mwyn hybu hawliau pobl anabl yng Nghymru i fyw’n annibynnol ac arfer yr un hawliau â dinasyddion eraill. Cyhoeddwyd y Fframwaith ar gyfer ymgynghori ym mis Medi 2012. Cyhoeddwyd crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad ar y fframwaith drafft ar wefan Llywodraeth Cymru ddiwedd mis Mawrth. Bydd y ffocws ar y meysydd blaenoriaeth allweddol a nodwyd gan y bobl anabl eu hunain, ac ar egluro sut y gellir mynd i’r afael â’r rhwystrau i gydraddoldeb ym mhob un o’r meysydd hyn. Rydym wedi ymgysylltu’n eang â phobl anabl a’r sefydliadau sy’n eu cynrychioli yn ystod y gwaith o ddatblygu’r fframwaith ac yn ystod y cyfnod ymgynghori. Maent wedi ein hysbysu eu bod am gael camau ymarferol sy’n dileu rhwystrau i gydraddoldeb a chynhwysiant i bobl anabl sy’n byw yng Nghymru.

 

Cyhoeddir y Fframwaith terfynol yn ddiweddarach eleni.  

 

 

CYNYDDU GRADDAU YMGYSYLLTU A CHYFRANOGI GRWPIAU HEB GYNRYCHIOLAETH DDIGONOL  

 

Mae adroddiad astudiaeth achos Chwaraeon Cymru wedi dangos sut mae ymrwymiad y Cadeirydd a dulliau rhagweithiol Chwaraeon Cymru o ran annog menywod i ymgeisio am benodiadau cyhoeddus, wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol.  

Er bod canlyniadau gwaith Chwaraeon Cymru yn galonogol iawn, mae’r diffyg sylweddol yn y cydbwysedd rhwng y rhywiau mewn penodiadau cyhoeddus yn parhau ledled Cymru ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i unioni hyn. Yn gynharach eleni, ysgrifennodd y Gweinidogion at Gadeiryddion pob Bwrdd Sector Cyhoeddus a reoleiddir yn gofyn iddynt weithredu er mwyn cynyddu nifer y menywod a grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar fyrddau sector cyhoeddus. Bwriedir cynnal seminar ar gyfer Cadeiryddion ym mis Gorffennaf eleni lle gellir trafod yr hyn a wnaethpwyd hyd yma.

 

 

FFRAMWAITH GWEITHREDU AR GYFER TROSEDDAU CASINEB

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn lansio Fframwaith Gweithredu i fynd i’r afael â throseddau casineb yn ystod Haf 2013. Bydd yn cwmpasu nodweddion gwarchodedig hil, crefydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd ac yn ymestyn hefyd (ar sail archwiliadol) i isddiwylliannau amgen a phobl hŷn.

 

 

SAFLEOEDD SIPSIWN A THEITHWYR

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyllid i awdurdodau lleol yng Nghymru i adnewyddu safleoedd presennol awdurdodau lleol a chyllid tuag at adeiladu safleoedd newydd. Cynigir cyllid o 100% ac yn ystod 2012/13, ymrwymwyd ychydig dros £1.7 miliwn i brosiectau adnewyddu ledled Cymru.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £1.75 miliwn yn 2013/14 tuag at safle newydd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn Aberhonddu, Powys. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu ariannu nifer o brosiectau adnewyddu mewn safleoedd sy’n eiddo i awdurdodau lleol ledled Cymru.

 

Rydym yn darparu cyngor i Awdurdodau Lleol ar faterion yn ymwneud â datblygu a gwella safleoedd. Rydym wedi cyhoeddi Canllawiau Arferion Da hefyd ar ddatblygu a rheoli safleoedd sipsiwn a theithwyr er mwyn helpu Awdurdodau Lleol.

 

 

Roedd y Papur Gwyn ar Dai yn cynnig y dylai’r Bil Tai arfaethedig gynnwys Dyletswydd Statudol ar awdurdodau lleol i wneud darpariaeth ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr newydd lle nodwyd bod angen hynny. Byddwn yn llunio Canllawiau er mwyn helpu Awdurdodau Lleol i ddeall goblygiadau'r Ddyletswydd hon a sut y gallant gydymffurfio a’u cyfrifoldebau.

 

Rydym wedi cwblhau proses ymgynghori yn ddiweddar hefyd, gyda’r nod o roi Deddf Cartrefi Symudol 1983 ar waith ar safleoedd Awdurdodau Lleol newydd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. Bydd y gwaith hwn o weithredu’r Ddeddf yn sicrhau bod preswylwyr sy’n byw ar y safleoedd hyn yn cael sicrwydd deiliadaeth cyfartal, a fydd yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn cydymffurfio â’i chyfrifoldebau dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Bydd Diwygiadau i’r Ddeddf, a gynigiwyd yn yr ymgynghoriad, yn diogelu Awdurdodau Lleol hefyd er mwyn sicrhau y gallant reoli eu safleoedd yn effeithiol. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad drwy gyfweliadau wyneb yn wyneb gyda 78 o breswylwyr ar yr holl safleoedd Sipsiwn a Theithwyr Awdurdodau Lleol yng Nghymru, digwyddiadau gweithdy ar gyfer rhanddeiliaid ym Merthyr a Wrecsam, a thrwy 14 o gyflwyniadau ysgrifenedig gan sefydliadau ac unigolion. Disgwylir i’r darpariaethau hyn ddod i rym yn ystod yr haf hwn.

 

Yn ystod yr hydref, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ei chynnydd yn erbyn yr amcanion a nodir yn “'Teithio at Ddyfodol Gwell' - Fframwaith Gweithredu a Chynllun Cyflenwi”.

 

 

CYNYDDU CYDLYNIANT CYMUNEDOL

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer naw Cydgysylltydd Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol a fydd yn cwmpasu pob un o’r 22 ardal awdurdod lleol er mwyn cynyddu gwaith prif ffrydio cydlyniant cymunedol ac i sicrhau bod y gwaith o gyflawni’r rhaglen yn parhau’n gynaliadwy. Mae’r cyllid hwn hefyd yn cefnogi’r gwaith o gyflawni dyletswydd y Ddeddf Cydraddoldeb ar gyfer Awdurdodau Cyhoeddus i ‘hyrwyddo cysylltiadau da’. Cefnogwyd y gwaith hwn gyda Rhwydwaith Cydlyniant Cenedlaethol a Chanllawiau Prif Ffrydio. 

 

 

Y TRYDYDD SECTOR

 

Mae’r Trydydd Sector yn bartner allweddol yn y gwaith o gyflawni ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu. Fodd bynnag, mae’n bwysig cael dealltwriaeth well o’r ffordd rydym yn cydweithio. Felly, mae adolygiad o’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector eisoes ar y gweill. Bydd y prif faterion sy’n cael eu hadolygu yn cynnwys:

 

-       Cynnwys y Trydydd Sector yn y gwaith o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.

-       Defnyddio Cyllido Seilwaith yn y dyfodol

-       Patrwm yr ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector.

-       Datblygu Compactau yn y dyfodol rhwng awdurdodau lleol a’r Trydydd Sector. 

-       Diwygio dogfennau allweddol gan gynnwys y Cynllun y Sector Gwirfoddol, Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector, a’r Cytundeb Partneriaeth gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Mae gwaith ymgysylltu anffurfiol eisoes wedi cychwyn ar lefel swyddogion yn fewnol ac yn allanol, cyn cynnal ymgynghoriad ffurfiol a fydd yn cychwyn ym mis Mai 2013.

 

Mae gwaith wedi cychwyn hefyd er mwyn gwella’r systemau a ddefnyddir i olrhain gwariant ar draws Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi sefydliadau gwirfoddol. Mae’r gwaith yn cynnwys gwelliannau technegol a hyfforddi deiliaid cyllidebau er mwyn sicrhau bod diffiniadau’n cael eu defnyddio a thaliadau’n cael eu “tagio’n” gyson.

 

 

DATBLYGU CYNALIADWY

 

Ym mis Rhagfyr 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn “Cymru Gynaliadwy – Dewisiadau Gwell ar gyfer Dyfodol Gwell”. Yn dilyn ymgynghoriad y Papur Gwyn, rhoddir ystyriaeth ofalus i’r ymatebion a sut maent yn llywio’r ffordd ymlaen.  Mae’r broses o drosglwyddo cyfrifoldebau i’r portffolio Cymunedau a Threchu Tlodi yn pwysleisio natur draws-lywodraethol ein hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy, yn yr un ffordd y mae ein hymrwymiad i drechu tlodi a hybu cydraddoldeb yn cynnwys llywodraeth yn ei chyfanrwydd. Mae’n cyd-fynd yn dda hefyd â’r ffocws ar y ffordd y mae’n llywodraeth yn gweithio i sicrhau dyfodol gwell a thecach i’n plant a’n pobl ifanc.

 

 

 

Huw Lewis AC

Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Mai 2013